Pam gweithio gyda ni?
Manteision
Mae nifer o fanteision ychwanegol hefyd o weithio yn ein diwylliant gweithio cefnogol i’ch helpu i arbed arian ac i gynnal ffordd iach o fyw.
1
Gostyngiadau Mewn Siopau
Mae Novus Cambria yn galluogi ei weithwyr i gyd i gael gostyngiadau mewn siopau drwy ein cynllun Chi yn y Gwaith. Mae'r cynllun yn galluogi cydweithwyr i gael gostyngiadau sylweddol ar nifer o nwyddau gwahanol a chan fanwerthwyr, o B & Q, Tesco, Argos, Boots, Currys PC World a llawer rhagor.
2
Talebau Gofal Plant
Mae gan gydweithwyr Novus Cambria hawl i wneud cais am dalebau i helpu gyda chostau gofal plant. Mae talebau gofal plant yn gallu manteision ar arbedion treth ac Yswiriant Gwladol. Petaech yn ymuno â'r cynllun gallech arbed hyd at £243 y mis neu £55 yr wythnos o'ch cyflog gros, fel ffordd treth-effeithlon o dalu am ofal plant.
3
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Dyma gynllun cost effeithiol, treth-effeithlon i gael beic. Gallwch fenthyg hyd at £ 1000 ar gyfer beic ac offer diogelwch a diogeledd drwy ildio cyflog. Yna, byddwch yn ei ad-dalu dros gyfnod 12 mis yn uniongyrchol o'ch cyflog.
4
Cynllun Arian Iechyd
Bydd hyn yn arbed arian i chi gyda’ch gofal iechyd o ddydd i ddydd, gan gynnwys meysydd optegol, deintyddol, ffisiotherapi, trin traed a llawer rhagor. Mae gan bob cydweithiwr hawl i ymuno ar gyfradd ostyngol.
Ble Nesaf?

