Amgylchfyd
CEM Berwyn yw'r carchar mwyaf yng Nghymru ac mae ein cyfleuster o’r radd flaenaf yn darparu un o'r amgylcheddau dysgu diogel mwyaf newydd a mwyaf datblygedig ym Mrhydain i’n cydweithwyr a’n dysgwyr. Bydd dysgwyr yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu sy'n amrywio o ddatblygiadau cyfryngau digidol i gelfyddydau perfformio; gosod brics a gwaith saer i arddwriaeth ac adfer dodrefn ffasiynol di-raen; Bydd pob un ohonynt yn galluogi dynion yng Ngharchar Berwyn i ddysgu mewn lleoliad sy'n eu paratoi yn llawn ar gyfer y byd gwaith.
Mae gweithio mewn carchar yn brofiad unigryw ac mae pob un o’n cydweithwyr yn frwd ynglŷn â’r llu o fuddion gweithio yn y math hwn o amgylchedd.
Mae ein cydweithiwr Ruth Cochraneo, tiwtor Sgiliau Hanfodol Cymru o Novus Cambria, yn sôn isod am yr heriau a'r buddion o weithio mewn amgylchedd carchar.
'Diwrnod ym mywyd gweithio yn y carchar? Mae hynny’n anodd oherwydd mae pob diwrnod yn wahanol. Yr hyn sydd raid i ni ei gofio yw bod llawer o ffactorau allanol yn effeithio ar ein diwrnod "arferol". Mae'r rhan fwyaf o'r dyddiau’n ddiwrnodau da, mae’r dysgwyr yn mwynhau dod o’u hadain, cadw'n brysur, dysgu pethau newydd. Mae'n seibiant oddi wrth fyd y carchar am ychydig o oriau. Os ydynt wedi cael ymweliad da neu lythyr braf, yna bydd eu hwyliau’n uchel ond ambell i ddiwrnod mae pethau’n wahanol. Mae ymweliad gwael, llythyr "Annwyl John" neu rywbeth sy'n digwydd yn y carchar yn gallu newid hwyliau - weithiau mae'n rhaid rhoi cynllun y wers o’r neilltu i newid y deinameg.
Beth sy'n ei wneud mor foddhaus i ni fel athrawon? Mae hynny'n hawdd; mae’r "eiliadau ysbrydoledig" mewn dysgu troseddwyr yn llawer mwy ac yn llawer disgleiriach nag unrhyw le arall y cefais i brofiad ohono. Ni chafodd y rhan fwyaf o'n dysgwyr orffen eu haddysg mewn ysgol, doedden nhw ddim yn credu y byddent yn gallu cyflawni dim ac mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn cael effaith enfawr arnyn nhw. Mae ennill y cymhwyster hwnnw, derbyn y dystysgrif gyntaf iddyn nhw ei chael erioed o bosib, yn funud falch iawn, rhywbeth maen nhw ysgrifennu adref amdano. Yr hyn sy’n ei wneud mor anhygoel yw cael bod yn rhan o wylio agweddau’n newid wrth i'w hunangred gynyddu; cael clywed bod y dysgwyr hyn eisiau rhywbeth gwell ar gyfer eu plant a chael eu helpu i weithredu cynllun i fynd adref, cael swydd ac aros gartref gyda'u teuluoedd.'