Novus Cambria
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl mynediad i wybodaeth sy’n cael ei chadw gan awdurdodau cyhoeddus ac yn nodi eithriadau i’r hawl mynediad hwnnw.
Mae LTE Group a Novus Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant agored ac atebol. Mae ganddo ddyletswydd i’ch helpu i ddeall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac i egluro sut y gallwch roi’r hawliau hynny ar waith a chyflawni eich cyfrifoldebau.
Sut i gael gwybodaeth am LTE Group a Novus Cambria:
- Gwirio ein Cynllun Cyhoeddi (gweler isod)
- Gwirio agweddau eraill ar ein gwefan
- Gwirio adnoddau allanol ar gyfer gwybodaeth sy’n cael ei gyhoeddi
- Cyflwyno cais am wybodaeth: foi@ltegroup.co.uk
Cynllun Cyhoeddi
Mae cynllun cyhoeddi yn ofyniad o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Ddeddf yn hyrwyddo natur agored ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus drwy ofyn i awdurdodau cyhoeddus wneud gwybodaeth ar gael yn rhagweithiol, trwy gynllun cyhoeddi.
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus greu Cynllun Cyhoeddi yn disgrifio:
- y wybodaeth y byddant yn ei chyhoeddi
- y fformat y bydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi
- a yw’r wybodaeth ar gael am ddim ai peidio
Mae ein Cynllun Cyhoeddi ar gael yma: LTE Group Publication Scheme
Mae’r Cynllun Cyhoeddi yn ganllaw i’r wybodaeth yr ydym yn ei wneud ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’n gweithgarwch busnes arferol. Mae’n disgrifio’r mathau o wybodaeth sydd ar gael yn arferol ac yn hwyluso’r mynediad at y wybodaeth honno.
Mae’r wybodaeth a gyflwynir ar gael yn y dosbarthiadau canlynol:
- Pwy ydyn ni a beth ydyn ni’n ei wneud
- Ar beth ydyn ni’n ei wario a sut ydyn ni’n ei wario
- Beth yw ein blaenoriaethau a sut gynnydd ydyn ni’n ei wneud
- Sut ydyn ni’n gwneud penderfyniadau
- Rhestrau a chofrestrau
- Y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig
Nid yw’r Cynllun yn rhestr o gyhoeddiadau gwirioneddol nac yn rhestr gynhwysfawr o wybodaeth sydd gennym ni chwaith oherwydd bydd y rhain yn newid wrth i ddeunydd newydd gael ei gyhoeddi neu wrth i ddeunydd presennol gael ei adolygu. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i wneud y wybodaeth a ddisgrifir ar gael.
Byddwn yn bwriadu cyhoeddi’r holl ddogfennau sydd wedi’u cynnwys yn y Cynllun yn gynyddol mewn fformat electronig lle bo’n bosibl trwy ein gwefan.
Mae ein Cynllun yn dilyn y model Cynllun Cyhoeddi sydd wedi cael ei gynhyrchu gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) y corff annibynnol sy’n goruchwylio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Beth am wybodaeth nad yw wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi?
Mae gennych chi’r hawl, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, i wneud cais am unrhyw wybodaeth sydd gan yr awdurdod cyhoeddus, nad yw ar gael eisoes trwy ei gynllun cyhoeddi. Gallwch wneud hynny trwy anfon e-bost at foi@ltegroup.co.uk neu mewn ysgrifen at:
Freedom of Information
LTE Group Data Protection Office
Whitworth House
Ashton Old Road
Manchester
M11 2WH
Mae gan awdurdodau cyhoeddus hyd at 20 diwrnod i ymateb ac mae’r rhan fwyaf o geisiadau yn cael eu delio gyda nhw yn rhad ac am ddim. Mae dyletswydd arnom i roi gwybod i’r hawlydd os:
- Bod gennym reswm cyfreithlon ac wedi’i ganiatau i ymestyn ein hamser ymateb
- Nid ydym yn dal y wybodaeth a ofynnwyd amdani
- Mae eithriad yn y Ddeddf yn golygu nad yw'r wybodaeth yn destun y gellir ei ryddhau
Byddai angen i ni godi ffi briodol, yn unol â Codi ffi a chyfyngiadau cost | ICO
Byddwn bob amser yn darparu manylion pellach ac esboniad i'r ceisydd os yw unrhyw un o'r senarios hyn yn berthnasol, ac efallai y bydd yn rhaid i ni gyfiawnhau hyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) hefyd. Os na allwn ddatrys unrhyw gŵyn ar ôl cwblhau cais yna mae gennych yr hawl i gwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Information Commissioner's Office Wales
2nd Floor
Churchill House
Churchill Way
Cardiff
CF10 2HH
Gwybodaeth bellach am wneud cais i’w gael yma:
Sut i gael mynediad at wybodaeth gan awdurdod cyhoeddus | ICO
Sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth (FOI): Sefydliadau y gallwch ofyn iddyn nhw am wybodaeth - GOV.UK
Unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Polisi Rhyddid Gwybodaeth LTE Group
Proffil Caffael a Rheoli Cyflenwr LTE Group
Trin Ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth LTE Group*
*Ein cyfnod adrodd yn ôl yw’r flwyddyn academaidd gyflawn olaf. Mae’r ffigurau a ddarperir yn cynnwys LTE Group a’r holl is-gyrff. Mae ffigurau yn berthnasol i Novus Cambria neu unrhyw uned busnes unigol yn y Grŵp sydd i’w gael ar gais.